'Nabod y Teip: Mi Gerddaf Gyda Thi (Hoff Gerddi Serch Cymru)
Вставка
- Опубліковано 24 січ 2022
- Croeso nôl i'n cyfres yn dathlu awduron trwy ddarlleniadau o'u gweithiau mwyaf enwog!
Er mwyn dathlu Dydd Santes Dwynwen, dyma ni'n rhannu un o gerddi serch mwyaf teimladwy - a mwyaf poblogaidd - y Gymraeg. Prin iawn ydi'r gwybodaeth am Mi Gerddaf Gyda Thi - mae'r bardd yn anhysbys, a dim dyddiad cyfansoddi penodol arni - ond o glywed y geiriau bytholwyrdd, hawdd yw deall pam fod y gân wedi parhau ar hyd yr blynyddoedd.
Casglwyd y gerdd, ynghyd â degau o gerddi eraill, i'r gyfrol Hoff Gerddi Serch Cymru, gan Bethan Mair yn 2002. Tarwch heibio'ch llyfrgell leol i gael pori trwy'r casgliad eich hun... A synnu eich cariad gydag awen y beirdd, falle'?
(Cerddoriaeth gan Zapsplat.com) - Розваги