Mei Emrys - Olwyn Uwchben y Dŵr
Вставка
- Опубліковано 13 лип 2022
- Fideo Swyddogol / Official Video
Cyfarwyddo a Saethu / Shot and Directed - FfotoNant (Dafydd Owen)
Recordiau Côsh Records
Cyhoeddiadau Côsh Publications
'Dwi'n mynd i ddenig i Chicago.
Rhedeg ffwrdd er mwyn anghofio
Am y dyfodol does gynna'i ddim,
Achos Mae'n bwysig i adael fynd.
'Dwi'n mynd i ddenig i Chicago
I wylio'r byd yn fy mhasio fi heibio.
Fi a nghysgod: fy unig ffrind
'Chos ma' pawb arall yn dod a mynd.
'Mond bod ti'n cofio bod ni 'di bod yno.
Jyst bod chdi'n gwybod bod fi 'di mynd nôl
I Ail greu y darlun mewn lliwiau gwahanol.
Ei beintio fo drosodd nes 'sa ddim byd ar ôl.
'Dwi'n mynd i ddenig i Chicago.
'Dwi'n mynd i aros yno'n cuddio
A na'i ddiflannu i gefn y llun,
'Chos Mae 'na rinwedd mewn bod dy hun.
'Mond bod ti'n cofio bod ni 'di bod yno.
Jyst bod chdi'n gwybod bod fi 'di mynd nôl
I ail greu y darlun mewn lliwiau gwahanol.
Ei beintio fo drosodd nes 'sa ddim byd ar ôl.
'Dwi'n mynd i ddenig i Chicago:
Dilyn y gwynt a gwneud be dwi'sho,
Heb orfod meddwl am neb na dim,
'Chos Mond dieithryn ydw'i fan hyn.
Ac mae yna olwyn sy'n troi uwchben y dŵr.
Dos yno i wneud yn siŵr.
Ac os 'di'r atgofion dal i bwyso'n lot rhy drwm:
Wel, golcha nhw'i gyd i ffwr'.
'Mond bod ti'n cofio bod ni 'di bod yno.
Jyst bod chdi'n gwybod bod fi 'di mynd nôl
I ail greu y darlun mewn lliwiau gwahanol.
Ei beintio fo drosodd nes 'sa ddim byd ar ôl.
'Dwi'n mynd i ddenig i Chicago.
Dileu y cof a dechra' eto
'Dwi'n mynd i adael y ffws a'r stŵr,
'Chos 'ma 'na olwyn uwchben y dŵr,
Mae 'na olwyn uwchben y dŵr.