Mei Emrys - Allan O'r Suddo
Вставка
- Опубліковано 4 сер 2024
- Cyfarwyddo : Ffotonant
Recordiu Côsh Records
Cyhoeddiadau Côsh Records
’Raid i mi fod yn onest: doedd gynno fi’m clem
Bod yr awyr am ddiffodd: dim golau’n y nen.
Ond mae ’na storm yn codi: fydd ’na dywydd mawr.
Nai’m dy helpu di fyny ’rôl dy daro di lawr, i lawr.
’Rôl dy daro di lawr.
Heb y sêr. Heb yr haul.
Neshi golli fy nail.
So mai’n amser i mi ailflodeuo a
Thyfu allan o’r baw,
Drwy’r tymhestloedd a’r glaw.
Na’i ddisgleirio’n ffordd allan o’r suddo ’ma.
Y suddo ’ma.
Neshi golli rheolaeth: dim synnwyr na threfn.
Fi oedd y gyrrwr y car ond o’n i’n isda’n y cefn.
A mae ’na storm yn codi: mae ’na dywydd mawr.
’Raid ti neidio nôl fyny pan ti’n syrthio i lawr, i lawr
Pan ti’n syrthio i lawr
Heb y sêr. Heb yr haul.
Neshi golli fy nail.
So mai’n hen bryd i mi ailflodeuo a
’Mestyn allan o’r baw,
Drwy’r tymhestloedd a’r glaw
Na’i ddisgleirio’n ffordd allan o’r suddo ’ma.
Pan mae’r dŵr yn llifo
Drwy y tyllau’n y to
A dy feddwl di’n boddi’n y gorffwylldra.
’Raid ti ffeindio dy hun.
Gwthio i lle tisho mynd.
A disgleirio allan o’r suddo ’ma.
O’r suddo ’ma.
Y suddo ’ma.
Neis iawn - llongyfarchiadau, Mei a thîm! 😎