Gad i Mi Fod
Вставка
- Опубліковано 11 січ 2025
- Arafa lawr,
Dwi di bod yn dilyn ti ers torriad gwawr,
Er ti'n mynnu hedfan mlaen beth bynnag a ddaw,
Mae'n amlwg ti'n saethu at y llawr
Mor flin, mor flin,
Am ddychmygu hedfan mlaen ar ben fy hun,
Ac am beidio syrthio'n syth i lawr ar un penglin,
I dderbyn mae ti yw'r unig un.
Plis, plis, plis gollwng fi yn rhydd,
Does dim diddigrwydd yn yr unigrwydd hyn,
Lapia amdanynt yn dynn,
Mae'n bwrw gwragedd a ffyn,
Ac mae'n debyg nad yw'r trywydd yma'n dilyn at unman,
Dwi di blino yn lan,
Ond ti'n bwriadu fynd mlaen,
I wasgaru dioddefaint tra bod neb yn dy orfod,
Cariad plis, plis, plis...
Dim mwy, dim mwy,
Mae e fel petai dwi'n anweladwy,
Ac rwyt ti fel noson oer dwi methu cysgu trwy,
Achos fi ydy'r un ti'n anwybyddu'n llwyr.
Plis, plis, plis gollwng fi yn rhydd,
Does dim diddigrwydd yn yr unigrwydd hyn,
Lapia amdanynt yn dynn,
Mae'n bwrw gwragedd a ffyn,
Ac mae'n debyg nad yw'r trywydd yma'n dilyn at unman,
Dwi di blino yn lan,
Ond ti'n bwriadu fynd mlaen,
I wasgaru dioddefaint tra bod neb yn dy orfod,
Cariad plis, plis, plis...
Gad i mi fod.