Anturiaethau Walter MAG3 (arennau)
Вставка
- Опубліковано 25 лют 2024
- Antur Walter
Mae Walter yn byw yn Antarctica gyda'i ffrindiau.
Mae wrth ei fodd yn chwarae gyda nhw yn yr eira.
Roedd rhaid i Walter fynd i’r doctor.
Roedd y doctor wedi ddweud fod ef eisiau i Walter gael sgan arbennig yn Ysbyty Llwynhelyg.
Roedd Walter yn ofnus, nid oedd erioed wedi bod i Ysbyty Llwynhelyg o'r blaen.
Bu'n rhaid i Walter adael Antarctica a ffarwelio â'i ffrindiau am ddiwrnod cyfan.
Roedd Ysbyty Llwynhelyg yn bell iawn i ffwrdd!
Daeth rhai o deulu Walter gydag ef.
Aeth â bwyd gydag ef, a'i ffrind gorau Morlo fel cwmni.
Roedd Ysbyty Llwynhelyg yn wahanol iawn i Antarctica.
Daliodd Walter law Morlo yn dynn iawn.
Cerddodd Walter a Morlo i lawr y coridorau i'r adran Pelydr-X.
Rhoesant eu henwau i’r fenyw y tu ôl i’r ddesg, ac eistedd yn yr ystafell aros.
Galwodd y fenyw enw Walter a gofynnodd iddo ei dilyn.
Aeth Morlo gyda nhw.
Roedd gan y fenyw wên fawr ar ei hwyneb. Roedd hyn yn helpu Walter i deimlo y chydig llai ofnus.
Roedd yr ystafell yn fawr iawn. Roedd gwely rhyfedd yr olwg gyda bocsys mawr ar y diwedd.
Roedd Walter yn falch fod Morlo gydag ef.
Fe wnaeth y dyn esbonio sut mae'r camera yn gweithio.
Nid oedd fel camera arferol.
Roedd rhaid i Walter orwedd ar y gwely ac roedd dau focs pob ochr i Walter.
Teimlodd Walter yn ofnus eto,ac fe wnaeth y fenyw ddweud y gallai Morlo fynd ar y sganiwr gydag ef.
Roedd Walter yn teimlo llawer mwy dewr gyda Morlo wrth ei ochr.
Dywedodd y fenyw wrth Walter bod e mynd i gael meddyginiaeth arbennig a fyddai'n gadael i’r doctoriaid weld ei arennau ar lun arbennig.
Nid oedd Walter yn hoff iawn o feddyginiaeth, roedd yn dechrau poeni ychydig.
Daeth dyn i mewn i helpu’r fenyw.
Dywedodd wrth Walter nad oedd yn rhaid iddo yfed y moddion,
ac y byddai'r dyn yn rhoi’r moddion mewn tiwb arbennig a oedd yn mynd tu fewn braich Walter.
Roedd Walter yn falch nad oedd yn rhaid iddo yfed unrhyw foddion, ond roedd ychydig yn ofnus o hyd.
Rhoddodd y dyn freichled dynn o amgylch braich Walter er mwyn iddo allu gweld i ble roedd angen i’r moddion fynd.
Dywedodd y fenyw y gallai braich Walter deimlo braidd yn oer, a gallai hyd yn oed deimlo braidd yn goslyd.
Cydiodd Walter yn dynn yn Morlo a chau ei lygaid…
Teimlodd Walter yr oerfel, a pinsiad bychan.
Yna dim byd.
Agorodd Walter ei lygaid, a oedd y cyfan drosodd?
Pan edrychodd Walter i lawr, roedd ganddo rwymyn ar ei fraich, gyda thiwb bach yn sticio allan ar y diwedd.
Wnaeth o ddim brifo, ond roedd yn teimlo braidd yn ddoniol.
Nawr roedd Walter yn barod am y sgan.
Bu'n rhaid iddo orwedd ar y gwely mawr tra rhoddodd y dyn a’r fenyw ffisig yn y tiwb ar ei fraich.
Roedd y gwely yn arbennig. Fe wnaeth Walter fynd yn uchel yn yr awyr!
Roedd y sgan barod i ddechrau.
Daeth y ddau focs mawr yn nes eto, ac fe wnaeth y dyn ddweud i beidio poeni.
Dim ond tynnu lluniau oedd y camera, ni fyddai yn fy mrifo.
Dywedodd y dyn fod yn rhaid i Walter aros yn llonydd iawn, fel cerflun.
Roedd hyn yn anodd iawn i'w wneud. Mae Walter fel arfer yn chwarae yn yr eira a nofio yn y môr!
Dywedodd Morlo wrth Walter y byddai’n ceisio aros yn llonydd hefyd.
Gwnaeth hyn i Walter deimlo’n ddewr.
Wrth i Walter orwedd yno, gallai weld gwahanol liwiau ar y wal. Gallai hyd yn oed weld rhai pysgod!
Roedd hyn yn gwneud i Walter deimlo ei fod yn ôl adref gyda'i ffrindiau.
Bu'n rhaid i Walter aros yn llonydd am amser hir iawn.
Gallai ddewis DVD i wrando arno.
Daeth y dyn i roi ychydig mwy o feddyginiaeth iddo.
Dechreuodd Walter deimlo bod angen iddo ddefnyddio'r toiled.
Edrychodd i fyny ar Morlo a gofynnodd y fenyw iddo a oedd yn teimlo bod angen toiled arno.
Dywedodd Walter ie, a symudodd y gwely hud ef allan ac i lawr eto.
Ar ôl i Walter fynd ar y toiled arbennig, roedd yn rhaid iddo orwedd ar y gwely hud eto.
Y tro hyn dim ond cwpl o funudau oedd e ar y gwely.
Cyn iddo wybod, roedd y gwely hud yn symud eto.
Roedd y fenyw a'r dyn yno.
Roedden nhw’n dweud “da iawn Walter, mae i gyd wedi gorffen nawr”.
Ni allai Walter ei gredu, roedd y cyfan drosodd! Waw!
Dywedodd Morlo wrth Walter ei fod yn falch iawn ohono.
Roedd Walter yn teimlo'n eithaf balch ohono'i hun hefyd.
Dywedodd y fenyw a'r dyn wrth Walter ei fod wedi bod yn fachgen da iawn,
a bod ganddynt rai lluniau hyfryd y gallent eu rhoi i'r meddyg.
Fe wnaethon nhw dynnu'r tiwb o'i fraich a gadael i Walter ddewis sticer, a rhoi tystysgrif iddo hefyd!
Ni allai Walter aros i ddweud wrth ei ffrindiau pa mor ddewr oedd ef.
Pan gyrhaeddodd Walter yn ôl i'r Antarctica dangosodd y sticer a'i dystysgrif newydd i'w ffrindiau.
Roedden nhw i gyd yn gwrando ar Walter wrth iddo sôn wrthyn nhw am ei antur yn Ysbyty Llwynhelyg.
Nawr mae Walter yn gwybod nad yw mynd i’r ysbyty yn ddim byd i boeni amdano.
Mewn gwirionedd fe fwynhaodd yn fawr!
Dyma rai o’r bobl wnaeth Walter cwrdd â nhw yn Ysbyty Llwynhelyg.