Newyddion Mawr i Barc Gwledig Ystâd y Gnoll!

Поділитися
Вставка
  • Опубліковано 11 вер 2024
  • Newyddion Mawr i Barc Gwledig Ystâd y Gnoll! 🚧🎉
    Mae gwaith ar fin dechrau ar ein prosiect uchelgeisiol gwerth £12m i foderneiddio cyfleusterau ymwelwyr ac adfer nodweddion hanesyddol ym Mharc Gwledig poblogaidd @gnollpark🌳✨
    Bydd y trawsnewid anhygoel hwn, a ariennir gan Lywodraeth y DU ar gyfer Cwm Nedd, yn cymryd tua blwyddyn i’w gwblhau a’i nod yw gwella’r parc ar gyfer ymwelwyr rheolaidd tra’n denu rhai newydd o bell ac agos. Dyma beth allwch chi edrych ymlaen ato:
    🏗️ Dymchwel y ganolfan ymwelwyr bresennol
    🏢 Canolfan ymwelwyr ddeulawr newydd sbon, gwbl hygyrch gyda:
    ▶️ Caffi modern
    ▶️ Golygfeydd balconi syfrdanol sy'n wynebu'r de ar draws y llyn
    ▶️ Cyfleusterau digwyddiadau, cyfarfodydd a chynadledda
    ▶️Man chwarae meddal pwrpasol i blant
    🌲 Maes chwarae antur coetir newydd cyffrous i deuluoedd
    🏡 Diweddaru Bwthyn y Pwll i ddarparu llety i ymwelwyr
    🏰 Atgyfnerthu ac atgyweirio adfeilion Tŷ Gnoll
    💦 Adfer Rhaeadrau ysblennydd a hanesyddol y parc
    📜 Gosodiadau gwybodaeth a dehongli yn manylu ar hanes cyfoethog y parc
    🌉 Estyniadau i lwybrau hamdden a cherdded gyda phont newydd yn cysylltu â 57 hectar o dir Coed Cadw Fferm Brynau
    Bydd y prosiect hefyd yn cynnwys tirlunio, parcio, a gwelliannau eraill. Tra bod y gwaith yn mynd rhagddo, bydd gennym gyfleusterau arlwyo dros dro a thoiledau yn eu lle i’ch croesawu. Bydd y digwyddiad Parkrun poblogaidd yn parhau gyda llwybr amgen, a bydd llwybr dros dro yn sicrhau y gall cerddwyr barhau i fwynhau llwybr cylchol o amgylch y llyn.
    Bydd Pond Cottage hefyd yn cael ei uwchraddio’n sylweddol, gan gynnig llety dros nos syfrdanol i hyd at chwech o bobl mewn tair ystafell wely ddwbl wedi’u haddurno’n hyfryd gyda golygfeydd godidog dros y parc. 🏡🌟
    Cadwch lygad am fwy o ddiweddariadau a gwyliwch y trawsnewid yn datblygu! 📹✨
    Darllenwch y stori’n llawn yma: beta.npt.gov.u...

КОМЕНТАРІ •