Bwncath - Castell Ni (gydag ysgolion cynradd dalgylch Caernarfon)

Поділитися
Вставка
  • Опубліковано 4 лип 2024
  • Yn ôl yn 2020, mi gymerodd Elidyr Glyn ran mewn prosiect ar y cyd ag Ysgol Y Gelli, Ysgol Bontnewydd, Ysgol Rhosgadfan ac Ysgol Rhostryfan drwy ysgrifennu cân yn seiliedig ar atebion y plant i gwestiynau ynglŷn â’u teimladau am hanes Caernarfon gan ganolbwyntio ar y Castell. Uchafbwynt y prosiect gwreiddiol oedd mynd i Gastell Caernarfon i berfformio’r gân ar y cyd.
    Ar ôl y cyfnod clo, daeth cyfle i ymestyn y prosiect ymhellach wrth i’r band ddechrau ar y broses o recordio’r gân yn stiwdio Sain. Wedi hyn, yn 2023 rhoddwyd gwahoddiad i holl blant ysgolion cynradd dalgylch Caernarfon ddod i recordio’r gân yn Ysgol Syr Hugh Owen. Y tro hwn, daeth dros 400 o ddisgyblion o Ysgol Bontnewydd, Y Gelli, yr Hendre, Maesincla, Rhosgadfan, Rhostryfan a Santes Helen i gyd-ganu.
    I gloi'r prosiect gwahoddwyd y plant i berfformio’r gân dros yr aber gyferbyn a’r castell yng Nghaernarfon ar fore'r Ŵyl Fwyd ym mis Mai eleni, gan ffilmio'r cyfan er mwyn creu fideo i gyd-fynd a rhyddhau’r recordiad. Cafwyd profiad bendigedig o recordio’r fideo gyda chymorth a chefnogaeth athrawon a rhieni’r plant.
    Cerddoriaeth
    Bwncath ac ysgolion cynradd dalgylch Caernarfon
    Cyfarwyddwr a Golygydd
    Jamie Walker
    Camera
    Hedydd Ioan
    Gyda diolch i
    Ysgol Bontnewydd
    Ysgol Y Gelli
    Ysgol yr Hendre
    Ysgol Maesincla
    Ysgol Rhosgadfan
    Ysgol Rhostryfan
    Ysgol Santes Helen
    Gŵyl Fwyd Caernarfon
    Ysgol Syr Hugh Owen
    Label
    Sain Recordiau
    Cynhyrchydd
    Robin Llwyd
    Geiriau
    Yma mae 'nghalon yn curo
    Ac yma 'dw i'n troedio y stryd,
    Dyma fy lle
    Yma'n y dre’,
    Dyma ganol fy myd.
    Yma ma'n ffrindiau a'n nheulu
    A ninnau'n un teulu i gyd,
    Dyma fy llef
    I bawb yn y dref;
    Dewch i ganu ynghyd.
    Mae 'nghalon yng nghanol Caernarfon,
    Hon yw dinas fy myd,
    Ei hiaith yn llifo fel afon
    Rhwng ei muriau o hyd.
    Ac ambell i dro fydda’ i'n cofio
    Am boen yr holl frwydro a fu,
    Ond dysgu a wnawn,
    Defnyddiwn ein dawn
    I ailgynnau ein ffydd.
    Ac yna fe godwn ein tyrrau,
    Agorwn ein drysau i'r byd,
    Mae croeso’n y dre
    I bawb o bob lle,
    Dewch i ganu ynghyd.
    ‘Dw i am aros, aros yn driw iddi hi.
    Adeiladwn ei thyrrau o'r llawr
    yn awr yn gastell i ni.
    Mae 'nghalon yng nghanol Caernarfon,
    Hon yw dinas fy myd,
    Ei hiaith, yn llifo fel afon
    Rhwng ei muriau o hyd.
    O caraf, mi garaf Caernarfon,
    O mor werthfawr yw hi,
    Mor glir â dŵr yr afon
    Ydy hynny i mi.
    ‘Dw i am aros, aros yn driw iddi hi.
    Adeiladwn ei thyrrau o'r llawr
    yn awr yn gastell i ni.
    Mae 'nghalon yng nghanol Caernarfon,
    Hon yw dinas fy myd,
    Ei hiaith, yn llifo fel afon
    Rhwng ei muriau o hyd.
    O caraf, mi garaf Caernarfon,
    O mor werthfawr yw hi,
    Mor glir â dŵr yr afon
    Ydy hynny i mi.
    Llywelyn Elidyr Glyn

КОМЕНТАРІ •