Breindaliadau Cerddoriaeth Gymraeg.mp4

Поділитися
Вставка
  • Опубліковано 2 жов 2024
  • Y SIN GERDDORIAETH GYMRAEG DAN FYGYTHIAD
    MAE'R sin gerddoriaeth Gymraeg, sydd wedi bod yn fagwrfa i fandiau adnabyddus fel y Super Furry Animals a Catatonia, dan fygythiad oherwydd newid mewn dosbarthu breindaliadau.
    Mae'r sector gyfansoddi a chyhoeddi cerddoriaeth Gymraeg yn wynebu argyfwng difrifol. Maer Gymdeithas Freindaliadau Perfformio (PRS) syn trwyddedu siopau, bwytai ac archfarchnadoedd i chwarae cerddoriaeth ac sydd hefyd yn casglu taliadau am chwaraeiadau ar BBC, S4C a gorsafoedd radio masnachol, wedi newid y modd y maent yn talu cyfansoddwyr Cymraeg. O ganlyniad, mae yna lif incwm o 1.5 miliwn yn flynyddol wedii gwtogi i gyfansoddwyr Cymraeg a chwmniau cyhoeddi cerddoriaeth gyda'r gostyngiad ar fin syrthio i £260,000 erbyn dechraur haf eleni.
    Cafodd Cwmni Cyfathrebu Cambrensis eu comisiynu i ymgymryd ac astudiaeth ddichonolrwydd ar gyfer sustem freindaliadau perfformio Gymraeg.
    Dywedodd Arwel Ellis Owen,a fydd yn arwain yr ymchwiliad, wedi'i gynorthwyo gan Deian ap Rhisiart, Rydym yn awyddus i gysylltu gyda chyfansoddwyr a chwmniau cyhoeddi Cymreig i wybod mwy am eu sefyllfa ac i gyd ac ystyried modelau ar gyfer cydnabod eu cyfraniad unigryw i fywyd diwylliannol a economaidd Cymru.
    Am ragor o wybodaeth, cysylltwch gyda Deian ap Rhisiart naill ai trwy ebost deian@cambrensis.uk.com neu ffoniwch 01286 685254.

КОМЕНТАРІ • 1