Yws Gwynedd - Bae

Поділитися
Вставка
  • Опубліковано 30 тра 2024
  • Sengl Dawns Indi hafaidd newydd gan Yws Gwynedd wedi’i gynhyrchu a’i recordio gan yr amryddawn Rich James Roberts, sydd hefyd drymio i’r band. Mae’r trac yn enghraifft fywiog o naws cerddorol y band a’r cynhyrchydd. Mae Balafon N'famady Kouyate yn ymddangos ar y recordiad hefyd, a hon yw sengl cyntaf y band ers mis Awst y llynedd.
    Mae Bae yn dapestri cyfoethog o sain sy'n cyhoeddi'r albwm sydd i ddod, fydd yn cynnwys set llawn o draciau, sydd wedi'i recordio dros gyfnod o 2 flynedd. Mae'r albwm hir-ddisgwyliedig, gyda dyddiad rhyddhau wedi'i osod cyn diwedd y flwyddyn.
    I gyd-fynd a’r sengl, dyma fideo sydd yn wledd weledol ac yn serennu Saran Morgan a Gwion Morris Jones.
    Cerddoriaeth
    Yws Gwynedd
    Actorion
    Saran Morgan
    Gwion Morris Jones
    Cynhyrchydd a Cyfarwyddwr
    Aled Wyn Jones
    Is- Gynhyrchydd a Cyfarwyddo
    Elis Derbyshire
    DOP, Cyfarwyddo a Golygu
    Andy Pritchard
    Rheolwr Cynhyrchu
    Iona Rhys
    Gyda diolch i
    Cyngor Sir Conwy
    Welsh Highland Railway
    Caffi Spooners
    Prohibition Porthaethwy
    Prifysgol Bangor
    Alun Roberts
    Ffion Haf
    Catrin Morris
    Label cyhoeddi
    Recordiau Cosh
    Cynhyrchydd
    Rich Roberts
    Geiriau/Lyrics:
    Daw y tonnau nol i ganu’r un hen stori
    Hoel eu hanes yn yr ewyn gwyn
    ma’n fy atgoffa i o, be nes i anghofio
    Ble dwi angen dod i deimlo hyn
    Oni’n aros yma ben fy hun
    Nes i deimlo’r pwysa’n codi
    Nes i drio gafael yn dy lun
    I gael man i angori
    Nôl a nôl i’r bae
    Aros i dy lygid gau Dy lygid gau
    Bob yn hyn a hyn ma’n Amser newid siwrna
    Dal y gwynt i gyrraedd pen y bryn ond
    Os ti’n aros heno, fydd dy gorff yn cofio
    Ble ti angen dod i deimlo hyn
    Wyt ti’n trio neud o ben dy hun A ti’n trio peidio boddi
    Wyt ti’n trio aros ar ddi-hun
    I gael man i angori
    A ma cân yr ewyn erbyn hyn wedi canu diwedd stori
    Ond daw cyfle eto’i ddal yn dynn Rhwng bob ennyd sy’n bodoli
    Awn ni nôl i’r bae i weld y byd
    Awn ni weld y tonnau’n codi
    Nawn ni aros am ryw ddarn o hud I gael man, i angori

КОМЕНТАРІ • 7

  • @mkrool
    @mkrool 24 дні тому

    this song has made me fall back into learning more of my mother tongue... what a song guys... proper lush :)

  • @cariaislinn2843
    @cariaislinn2843 26 днів тому +1

    mae’r cân yma yn unig yn gwneud i mi wrando i mwy miwsig Gymraeg

  • @Eugenitys
    @Eugenitys 2 місяці тому +3

    Very Wes Anderson, love it!

  • @deanphillipsmusic
    @deanphillipsmusic Місяць тому

    Great track and a lovely production and video. Came here after listening to this on BBC Radio 1 Bethan Elfyn show - from a fellow Welsh music artist.

  • @penderyn8794
    @penderyn8794 2 місяці тому +6

    Diweddglo bach yn drist 😂

    • @mkrool
      @mkrool 24 дні тому

      not so sad really but a good twist i kinda got more of a relief emotionally from that last clip as if they both ended up happy with different ppl in the end

  • @jrobdoesgames
    @jrobdoesgames Місяць тому

    Rwy'n cofio pan aeth Yws Gwynedd uwchlwytho Drwy Dy Lygid Di nôl mewn blwyddyn 5! Hapus I weld mwy ohonyn nhw mewn y diwedd o blwyddyn 11.