Melin Melyn - Nefoedd Yr Adar

Поділитися
Вставка
  • Опубліковано 9 лют 2025
  • ‘Nefoedd Yr Adar’ yw’r blas cyntaf oddi ar EP newydd Melin Melyn, ‘Happy Gathering’. Mae'r gân wedi ei hysbrydoli gan hen chwedl am Nefydd Hardd, brenin cenfigennus a foddodd dywysog ifanc mewn llyn yn Eryri yn yr 12fed ganrif. Enw'r tywysog oedd Idwal, ac fe enwyd y llyn yn Llyn Idwal er cof amdano. Credir nad oes yr un aderyn yn hedfan dros y llyn gan eu bod i gyd yn galaru, ac mi glywir udo yn y pellter pan fydd storm yn y cwm. Recordiwyd y gân yn stiwdio Tom Rees ac fe'i chynhyrchwyd gan Llŷr Pari. Dyma’r fideo i'r gân, gan yr amryddawn Edie Morris a'i brawd George Morris.
    Cyfarwyddwyr: Edie Morris & George Morris
    Cyfarwyddwr ffotograffiaeth: George Morris
    Dylunydd gwisgoedd: Edie Morris
    Gyda diolch mawr i:
    Elliot Ditton, Mabli Jên Eustace, Adam Humphries, Issy Wilkes, Willow with Roots, The Sustainable Studio, Eto Eto, Daniel Morden, Cornwall Underground Adventures, Neptunes Army of Rubbish Cleaners (N.A.R.C)
    Melin Melyn yw:
    Gruff Glyn - Prif leisydd, Gitâr, Saxophone
    Will Barratt - Gitâr
    Garmon Rhys - Gitâr fas, llais
    Cai Dyfan - Drymiau
    Rhodri Brooks - Pedal Steel
    Dylan Morgan - Allweddellau
    GEIRIAU:
    Mae’n gaddo glaw.
    Ymlithro drwy y baw.
    Y cythral y diawl,
    Gan bwy gest ti’r hawl?
    Dim angen picell na rhaw
    ‘Mond ei ollwng
    I grombil y dwr yn llawn cyffro a braw
    Cythral y diawl, gan bwy gest ti’r hawl?
    Nefydd Hardd!
    Nefydd Hardd!
    Nefydd Hardd!
    Nefydd.....
    O nefoedd yr adar!
    Dim son am grawcian cig fran
    Na chri yr eryr, yn nunman
    Dros lyn a mynwent Idwal,
    Tawelwch llethol ymhobman
    Nefydd Hardd!
    O nefoedd yr adar!
    Cerddoriaeth newydd a diwylliant cyfoes Cymru 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿
    New Welsh music and contemporary culture 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿
    Gwasga'r botwm 'Subscribe'
    TikTok, Instagram, Twitter & Facebook - @Lwps4c

КОМЕНТАРІ • 14