Cymru 2-4 Armenia | Uchafbwyntiau
Вставка
- Опубліковано 5 жов 2024
- Uchafbwyntiau | Highlights | Cymru 2-4 Armenia
🏴🇦🇲 | #euro2024qualifiers
Mae gobeithion Cymru o gyrraedd Euro 2024 wedi dioddef ergyd drom wedi iddyn nhw golli gartref 2-4 yn erbyn un o dimoedd gwannaf y gystadleuaeth, Armenia.
Ar ôl cipio pedwar pwynt yn eu dwy gêm gyntaf roedd pethau’n edrych yn addawol i Gymru ond bydd y gêm heddiw yn rhoi gwedd newydd ar bethau.
Ac mae Cymru yn wynebu rhagor o boen posib wrth iddyn nhw baratoi i hedfan i wynebu Twrci yn Samsun ddydd Llun.
Dyma'r tro cyntaf i Gymru golli gêm ragbrofol ym Mhencampwriaeth Ewrop yn Stadiwm Dinas Caerdydd ers 2010.
Ond ni chafodd Armenia unrhyw drafferth o gwbl eu herio yno gyda phedair gôl o fewn 75 munud.
Bydd cwestiynau mawr ynglŷn â thactegau'r hyfforddwr Rob Page a hefyd amheuaeth a oes gobaith gan Gymru gyrraedd pencampwriaethau mawr yn sgil ymddeoliad nifer o’u sêr mwyaf.
Cerdyn coch
Roedd dechrau addawol iawn i Gymru wrth i Dan James sgorio ei chweched gôl dros ei genedl ar ôl 10 munud yn unig. Ond yna fe aeth popeth o'i le.
Fe aeth pethau o chwith naw munud yn ddiweddarach wrth i Armenia dorri drwy rengoedd y Cymry fel cyllell drwy fenyn gan adael i Lucas Zelarayan fwrw’r bêl i gefn y rhwyd.
Daeth ail gôl chwarter awr cyn hanner amser drwy Grant-Leon Mamedova wedi i Joe Rodon fethu a chlirio’r bêl.
Ar ôl hanner amser roedd Cymru i weld yn adeiladu momentwm ond yna fe fachodd Grant-Leon Mamedova ail gôl ar 65 munud gydag ergyd heibio i Danny Ward.
Sgoriodd Cymru ail gôl drwy Harry Wilson ac am eiliad roedd yn edrych fel pe bai Cymru ar fin llusgo eu hunain yn ôl i mewn i'r gêm.
Ond tair munud yn ddiweddarach fe darodd Zelarayán yr hoelen olaf yn yr arch gyda'i ail gôl.
Fe aeth pethau o ddrwg i waeth ar 77 munud wrth i Kieffer Moore dderbyn cerdyn coch.
Roedd Armenia 71 o lefydd yn is na Chymru ar gynghrair safleoedd y byd FIFA cyn y gêm - efallai bod Dafydd wedi lladd Goliath, neu efallai nad yw Cymru mwyach yn haeddu eu lle ymysg cewri pêl-droed Ewrop.
Great Armenia
Great result .🏴🏴
Evening to forget for Cymru but 3 excellent goals by Armenia. Need Good result in Turkey Monday
🇦🇲🇦🇲🇦🇲👍😊
We need Bale back.. Oh well
1.35 arbediad adweithiol. Reflecs sef i ti a fi.
Rowch clap ir ffycin swot.
Doedd dim uchafbwyntiau… dan ni’n ffycd
Sbwriel heno.
Rob page out
Armenias equaliser was a belter, top bins