Uned Cyfeirio Disgyblion Rhodfa Penrhos, Canolfan Addysg Conwy, yn ymweld â'r Ffindir

Поділитися
Вставка
  • Опубліковано 26 сер 2024
  • Mae Canolfan Addysg Conwy yn uned cyfeirio disgyblion yng Nghonwy i ddisgyblion sydd yn wynebu heriau mewn addysg prif ffrwd. Mae'r rhan fwyaf o'r dysgwyr yn dioddef o broblemau iechyd meddwl a achosir gan orbryder a hunanhyder isel yn dilyn profiadau trawmatig yn ysgolion brif ffrwd. Mae'r trawma hyn, ochr yn ochr ag anghenion dysgu ychwanegol wedi eu hadnabod neu heb eu hadnabod, a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod y tu allan i leoliad yr ysgol, yn arwain at ddisgyblion ag anghenion dysgu sylweddol a chymhleth, cymdeithasol ac emosiynol.
    Ym mis Chwefror 2024, teithiodd grŵp o ddysgwyr a staff ategol i'r Ffindir. I lawer o'r dysgwyr, dyma oedd eu tro cyntaf allan o Gymru, a rhoddodd gyfle iddynt ddatblygu sgiliau, magu hyder, ac agor eu llygaid i wlad a diwylliant newydd. Gwyliwch y fideo i glywed gan y dysgwyr a'r staff am eu Taith a newidiodd eu bywydau, a’r effaith a gafodd arnyn nhw.

КОМЕНТАРІ •