Crefftwyr Campus Sialens Ddarllen Yr Haf 2024 | The Reading Agency

Поділитися
Вставка
  • Опубліковано 10 чер 2024
  • Sialens Ddarllen Yr Haf 2024!
    sialensddarllenyrhaf.org.uk
    Tyrd i ddarganfod dy ddoniau creadigol gyda’r Crefftwyr Campus yn Sialens Ddarllen yr Haf!
    Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn ei ôl gyda thema newydd gyffrous ar gyfer 2024 - Crefftwyr Campus! Crëwyd yr her eleni gan y Reading Agency mewn partneriaeth â’r elusen Create, ac mae’r Sialens eleni yn dathlu creadigrwydd plant a’u dawn dweud stori.
    O ail-gylchu, i greu modelau, i beintio, dawns a cherddoriaeth, bydd Crefftwyr Campus Sialens Ddarllen yr Haf yn rhoi digon o gyfleoedd i blant ddefnyddio’u dychymyg a chanfod eu doniau mewnol trwy bŵer darllen.
    Gallwch ymuno â’r Sialens flynyddol, am ddim, yn eich llyfrgell leol neu ar-lein summerreadingchallenge.org.uk. Gall plant ganfod straeon newydd, casglu gwobrau hwyliog a chymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol yn rhad ac am ddim dros wyliau’r haf.
    Gyda darluniau addas gan yr arlunydd enwog Natelle Quek, bydd y thema Crefftwyr Campus yn ysbrydoli plant i fod yn greadigol ac i adrodd eu straeon eu hunain yn eu ffordd unigryw.
    Dyma gyfle gwych i danio dychymyg eich plentyn! Chwilich am eich llyfrgell agosaf sy’n cymryd rhan yn y Parth Llyfrgell a pharatowch i fod yn Greffwr Campus yr haf hwn.
    Darluniau gan Natelle Quek. Gwaith celf logo a animeiddio gan Lizzie Everard. Popeth yn © The Reading Agency 2024.
    English language trailer available at • Marvellous Makers Summ...

КОМЕНТАРІ •